Cwestiynau Cyffredin

Oes gennych chi gwestiwn am Eglwys yr Holl Saint, am ein gwasanaethau, neu am ymweld â’r eglwys? Byddwch yn gweld atebion i rai o’r ymholiadau mwyaf cyffredin yma – o hygyrchedd a pharcio i ymholiadau am briodasau a mwy.

All saints service
all saints newtown

Cwestiynau Cyffredinol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr eglwys, ein gwasanaethau, neu ddigwyddiadau sydd ar y gweill, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych.

Ar ddyddiau Sul, mae ein gwasanaethau’n dechrau am 9:30.

Ar ddydd Mawrth, mae gennym wasanaeth y Cymun am 11:00.

Na – dewch draw! Mae ein gwasanaethau i gyd yn agored i bawb. Yr unig eithriad yw gyda gwasanaethau mawr arbennig neu ddinesig lle byddwn efallai’n cynhyrchu tocynnau fel nad yw’r lle’n gorlenwi.

Mae gennym fynedfa ar gyfer cadeiriau olwyn, cyfleusterau toiled anabl a system dolen glyw i’r rhai sy’n defnyddio teclynnau clyw.

Mae gennym Ysgol Sul sy’n cyfarfod bob Dydd Sul am 09:30. Mae’r plant yn dechrau gyda gweddill y gynulleidfa cyn mynd i dreulio eu hamser eu hunain gyda’i gilydd. Pan maen nhw’n dychwelyd maen nhw’n cael eu gwahodd i rannu. Mae croeso i ofalwyr ddod gyda’u plant i mewn i’r Ysgol Sut os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny.

Mae ein harweinwyr Ysgol Sul i gyd wedi cael gwiriad DBS ac wedi cael eu hyfforddi mewn diogelu.

Cewch. Mae croeso i bawb.

Mae’r holl arian a dderbyniwn mewn rhoddion yn mynd i dalu am genhadaeth a gweinidogaeth yr Holl Saint ac Esgobaeth Llanelwy.

Mae nifer o rolau gwahanol y gall pobl eu gwneud, o helpu i gynnal a chadw’r adeilad, bod yn rhan o’n tîm croesawu a chymryd rhan yn y gwasanaeth. Mae rhai rolau’n gofyn am hyfforddiant penodol ac mae nifer ohonynt yn gofyn am wiriad DBS yn rhan o’n polisi diogelu. Os hoffech gymryd rhan yna siaradwch ag un o’r clerigwyr neu wardeiniaid yr eglwys.

Siaradwch ag un o’r clerigwyr.

Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn i’w gael yma

Mae lle cyfyngedig i barcio ar y stryd tu allan i’r eglwys.
Mae gan y Drenewydd nifer o feysydd parcio cyhoeddus sydd bellter cerdded o tua deg munud o’r eglwys.
Gallwch weld y manylion yma

Rydym bellter o ddeg munud wrth gerdded o orsaf fysiau’r Drenewydd. Mae’r bws 86B yn stopio tu allan i’r eglwys (nid yw hwn yn rhedeg ar Ddydd Sul)

Rydym bellter cerdded o 15 munud o orsaf drenau’r Drenewydd

Rydym yn defnyddio rhywfaint o Gymraeg yn ein gwasanaethau.

Rydym yn cynhyrchu taflen fisol o’r holl wasanaethau a digwyddiadau sy’n digwydd yn yr Holl Saint a’r eglwysi cyfagos. Hefyd, mae gan ein cylchgrawn Cedewain fanylion yr hyn sydd ar y gweill. Os hoffech dderbyn y rhain yna siaradwch ag un o wardeiniaid yr eglwys.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.