Amseroedd y Gwasanaethau yn Eglwys yr Holl Saint.

Mae addoli wrth galon ein bywyd yma yn Eglwys yr Holl Saint. Bob wythnos rydym yn dod at ein gilydd i weddïo, i ddiolch ac i ddod yn agosach at Dduw, drwy wasanaethau sy’n anrhydeddu traddodiadau cyfoethog yr Eglwys yng Nghymru lle gall pawb deimlo’n gartrefol. P’run a ydych yn dod bob wythnos neu’n ymweld am y tro cyntaf bydd croeso cyfeillgar i chi a chymuned i hi ddod yn rhan ohoni

Dydd Sul 09:30

Addoliad y Sul

Mae Moliant  Sul (‘Sunday Praise’) yn wasanaeth llawen, addas i deuluoedd gyda cherddoriaeth, gweddi a myfyrio. Cynhelir ar y Sul cyntaf a’r trydydd o bob mis.

Mae’r Ysgol Sul yn gyfle i aelodau iau ein teulu addoli a dysgu gydai gilydd. Cynhelir ar y Sul cyntaf a’r trydydd o bob mis.

Mae’r Cymun Sanctaidd yn gyfle i rannu pryd ysbrydol fel teulu. Cynhelir y Cymun ar yr ail, a’r pedwerydd a’r pumed Sul

(Cynhelir y Cymun Sanctaidd hefyd  yn Eglwys Llanllwchaiarn am 11:00am ar y Sul cyntaf a’r trydydd o bob mis.)

Dydd Mawrth 11:00

Y Cymun Sanctaidd

Gwasanaeth tawel, myfyriol sy’n cynnig cyfle i oedi yng nghanol yr wythnos.

Yn dilyn y gwasanaeth mae cyfle am baned a sgwrs. Gallwch aros ymlaen am ginio Cawl a Chyfeillgarwch (Soup Tuesday)

Dydd Gwener 09:00

Gweddïau dros ein Heglwys a’n Cymuned

Amser syml o weddïo yn y bore dros ein heglwys, ein tref a’r rhai sydd mewn angen. Mae croeso i bawb ymuno, cynnau cannwyll neu rannu mewn gweddi dawel.

Dydd Llun 1af y Mis 18:30 – 20:00

Caffi i rai sy’n galaru

Lle diogel a chefnogol i unrhyw un sydd wedi profi colled. Dewch i gael clust i wrando, paned a sgwrs gysurlon.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.