Ein Hanes

Eglwys yr Holl Saint yw’r fwyaf newydd o’r eglwysi Anglicanaidd a adeiladwyd yn Y Drenewydd, er ei bod hi nawr bron yn 140 oed. O’r ddwy eglwys wreiddiol ym mhlwyf Y Drenewydd, y Santes Fair a Dewi Sant, mae un yn adfail prydferth a’r llall wedi bod ar gau i addolwyr ers 2006, ond yn y plwyf i’r gogledd o’r afon – Llanllwchaiarn – mae’r ddwy eglwys yn dal i fod yn agored.

Eglwysi Cynnar yn Y Drenewydd

Roedd gan Y Drenewydd (gan gynnwys Llanllwchaiarn) ddwy eglwys gynnar iawn y soniwyd amdanynt yn gyntaf yn y 13eg Ganrif, y Santes Fair a Sant Llwchaiarn. Daeth y Santes Fair yn eglwys blwyf y dref a sefydlwyd yn 1279, tra bo Sant Llwchaiarn wedi gwasanaethu plwyf gwledig gwasgarog ar ochr arall yr Hafren. Hyd y flwyddyn 1800, roedd y Drenewydd yn dref farchnad fach gyda phoblogaeth o 2,000 ond erbyn 1881 roedd 7,000 o bobl yn y ddau blwyf. Roedd Penygloddfa yn 1800 yn ffermdir ond, erbyn 1840, roedd yn ganolfan lwyddiannus yn y diwydiant gwlanen; mae pum adeilad ffatri a nifer o dai teras sydd wedi parhau hyd heddiw’n dystiolaeth o’r ehangiad cyflym hwn.

Yr Angen am Leoedd Addoli newydd

Ble allai’r bobl hyn addoli? Roedd Sant Llwchaiarn ymhell o’r ganolfan boblogaeth newydd ac yn Y Drenewydd, roedd Eglwys y Santes Fair yn mynd â’i phen iddi fwy a mwy ac yn rhy fach i gymryd cynulleidfa fwy. Yn y cyfamser, roedd yr anghydffurfwyr yn ffynnu; cafodd capeli eu hadeiladu ac yna eu hail adeiladu ar raddfa fwy. Cafwyd ymgyrch hir, a gychwynodd  yn 1820, i adeiladu eglwys Anglicanaidd newydd yn  lle Eglyws y Santes Fair ac, yn y pen draw, agorodd Eglyws Dewi Sant yn 1847. Ond roedd yr eglwys newydd bron yr un mor bell o Benygloddfa ag Eglyws Sant Llwchaiarn. Yn 1851 trefnwyd cyfrifiad gan y llywodraeth i wneud arolwg o’r holl fannau addoli a faint o addolwyr oedd yn bresennol ar Ddydd Sul, Mawrth 31ain. Roedd y canlyniadau’n sioc ddirfawr i’r eglwys Anglicanaidd yn enwedig yng Nghymru lle’r oedd y nifer o bobl oedd yn mynd i’r capeli’n llawer iawn uwch na’r rhai oedd yn mynd i’r eglwys,

Roedd ymateb yr Anglicaniaid i’r her anghydffurfiol yn araf ond, yn 1856, roedden nhw wedi agor ysgol yn y fan lle mae Theatr Powys yn awr a chynhaliwyd gwasanaethau eglwys yn yr ystafell gyfarfod sydd ynghlwm wrth yr ysgol hyd nes yr adeiladwyd Eglyws yr Holl Saint. Yn y cyfamser, yn y 1870au hwyr, gwelwyd ton o adeiladu capeli yn y dref; yn ogystal ag Eglyws yr Cilgant a’r Eglyws Ddiwygiedig Unedig a agorodd yn 1878; dair blynedd yn ddiweddarach cwblhawyd y Capel Bedyddwyr mawreddog.

 

Gweledigaeth a Haelioni Syr Pryce Pryce-Jones

Roedd hi’n amlwg bod angen brys am eglwys newydd i’r gogledd o’r afon. Ond dim ond yn 1885 y daeth Esgob Llanelwy i’r Drenewydd i edrych ar safleoedd a awgrymwyd ar gyfer yr adeilad ac, yn yr un flwyddyn, roedd Mr Pryce Jones – a oedd wedi adeiladu Warws Brenhinol Cymru yn 1879, ac wedi rhedeg busnes prynu drwy’r post llwyddiannus iawn o’r fan honno – wedi addo £500 tuag at y gost.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd y byddai’n talu cost gyfan y gwaith adeiladu. Ei resymau am wneud hynny oedd cyfuniad o allgaredd a hunan-hyrwyddiad. Yn 1885, daeth yn aelod seneddol yn sedd Bwrdeistref Sir Drefaldwyn drwy fwyafrif bach, ond y flwyddyn ddilynol cafodd ei guro gan Frederick Hanbury-Tracy o Gregynog; mae’n sicr y byddai rhai o’r etholwyr wedi gwerthfawrogi ei rodd hael. Yn 1887 cafodd Pryce Jones ei urddo  i ddod yn Syr Pryce Pryce-Jones (gyda’r cysylltnod yn ei enw) a chyhoeddodd y byddai’r eglwys yn cael ei hadeiladu i ddathlu jiwbilî aur y Frenhines Victoria. Ar Ddiwrnod yr Holl Saint, 1af Tachwedd 1888, gosodwyd y garreg sylfaen gan yr Arglwyddes Pryce-Jones ac mae hyn wedi ei gofnodi ar yr arysgrif wrth fynedfa’r eglwys.

Cynllunio ac Adeiladu Eglyws yr Holl Saint

Dyma’r unig adeilad yn y Drenewydd a ddylunwyd gan bensaer rhyngwladol enwog – Syr Aston Webb, a oedd yn gyfrifol yn ddiweddarach am ffasâd newydd ym Mhalas Buckingham ac am Gofeb Victoria.

Pam wnaeth pensaer o Lundain oedd yn dechrau dod yn enwog lunio eglwys mewn tref fechan yng Nghymru? Yn syml, roedd yn gefnder i wraig y Rheithor. Mae gan y cynllun rai nodweddion sy’n nodweddiadol o’r mudiad Celf a Chrefft a oedd yn ddylanwadol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg; y twr gyda’i feindwr conigol a’r llythrennau cain uwchben y cyntedd sef  ‘Enter Ye In At The Strait Gate’.

Mae’r defnyddiau’n cynnwys calchfaen o Lanymynech gydag addurniadau o garreg Grinshill sydd ychydig i’r gogledd o’r Amwythig. Roedd y to wedi ei orchuddio’n wreiddiol â llechi o Fangor. Cafodd yr eglwys ei chysegru gan Esgob Llanelwy ar Fehefin 26ain 1890.

Adferiad ac Adnewyddiad

Yn dilyn hynny cafwyd nifer o welliannau, addasiadau ac atgyweiriadau i’r adeilad. Nid oedd gan y gwreiddiol unrhyw gwrs gwrthleithder ac arweiniodd hynny at broblemau difrifol oedd wedi golygu bod angen gwneud gwaith atgyweirio mawr yn y 1940au hwyr. Yn 1981, cwblhawyd estyniad a ddarparodd gegin, toiled ac ystafell bwyllgor. Ugain mlynedd yn ddiweddarach roedd angen gwneud atgyweiriadau pellach ar y gwaith carreg ac ariannwyd hyn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Yn fwyaf diweddar, ym mis Gorffennaf 2023, cwblhawyd rhaglen uchelgeisiol i wella tu mewn yr eglwys.  Cafodd y cyfleusterau, gan gynnwys toiledau a chegin, eu moderneiddio a’u hymestyn ar gost o £700,000. Gosodwyd system glyweledol soffistigedig ac mae seddi a dodrefn newydd wedi gweddnewid corff yr eglwys a’r gangell. Mae’r holl welliannau hyn yn golygu bod yr eglwys bresennol yn gallu chwarae rôl bwysig yn y gymuned leol gan gynnig ei chyfleusterau i amrywiaeth ehangach o bobl.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.