Charity Coffee morning
All Saints Bus

Cymuned Eglwys yr Holl Saint

Yn Eglwys yr Holl Saint mae ffydd yn rhywbeth yr ydym yn ei fyw yn ogystal â’i rannu.

Mae ein heglwys yn ganolbwynt ar gyfer cyfeillgarwch, gwasanaeth a gofal, lle gall pobl o bob oed gyfarfod, dod yn berthyn i deulu a chefnogi ei gilydd. O grwpiau plant bach i brydau cymunedol ac o ymweliadau ysgol i ofal bugeiliol, mae rhywbeth yn digwydd drwy’r amser sy’n ein cysylltu ni fel cymdogion a chyfeillion.

Mae’r tîm gofal bugeiliol a chlerigwyr yn ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain yn ôl yr angen a hefyd yn ymweld â phobl mewn ysbytai tu allan i’r ardal.

Gofal yn ein Cymuned

Fel eglwys rydym yn gwneud pob ymdrech i ofalu am bawb yn ein cymuned. I’r rhai sy’n methu dod  i’n gwasanaethau arferol yn yr Eglwys  ac a fyddai’n hoffi addoli neu dderbyn Cymun, rydym yn ymweld â’r holl gartrefi preswyl a nyrsio yn yr ardal yn rheolaidd: Bethshan, Plas Cae Crwn, The Oaks, yr ysbyty lleol a hefyd Llys Glan yr Afon.

Gorwelion – Cartref gyda Chymorth (i’r digartref)

Mae Eglwys yr Holl Saint yn falch o fod yn rhan o Gorwelion, sef elusen wedi ei seilio yn y Drenewydd sy’n darparu llety a chymorth ymarferol i bobl sy’n ddigartref.

Trwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel Green Pastures a Ponthafren, mae Gorwelion yn helpu unigolion i ail adeiladu hyder a symud tuag at fyw’n annibynnol.

Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu ein cred fod pawb yn haeddu diogelwch, urddas a gobaith am y dyfodol.

Cinio Cawl a Chyfeillgarwch (Soup Tuesday)

Dyddiau Mawrth 11.30 am – 1.30 pm

Mae croeso cynnes, cawl cartref a bwrdd cyfeillgar yn aros amdanoch yn ein cinio wythnosol. Mae Eglwys  yn gydnabyddedig fel Eglwys sy’n Deall Dementia felly mae’n cynnig lle diogel, cynhwysol a chefnogol lle mae cyfeillgarwch yn tyfu bob wythnos. Yn ystod misoedd yr haf mae’n darparu salad syml (ploughmans) yn lle cawl.

Prynhawniau Llun

Dyddiau Llun 2.00 – 4.00pm

Prynhawn anffurfiol a hamddenol, gyda phaned, cacen a sgwrs.

Mae croeso i unrhyw un alw draw, cyfarfod ffrindiau newydd a mwynhau cynhesrwydd cyfeillgarwch mewn cwmni da.

Clwb Dydd Mercher

Dydd Mercher 1af a 3ydd bob mis am 2.30-4 pm

Grŵp prynhawn cyfeillgar sy’n agored i bawb gyda siaradwyr gwadd, gemau, tripiau achlysurol a digonedd o chwerthin. Mae’n ffordd hawdd o gyfarfod â phobl a theimlo’n rhan o deulu Eglwys.

Marcher Croeso Cynnes (Warm Welcome Wednesdays)

Dydd Merch 2il a 4ydd bob mis. 2:30-4:30pm

Dewch i wylio ffilm, i ganu hen ganeuon poblogaidd, i wneud gweithgarwd crefft, i chwarae gemau ac i rannu cyfeillgarwch….ac i gael paned a sgwrs

Grŵp Babanod a Phlant Bach yr Holl Saint

Dyddiau Mercher (yn ystod y tymor) | 9.15 – 11.15 am | £2 y sesiwn (dim cost ar gyfer yr ymweliad cyntaf)

Lle diogel bywiog, gofalgar i blant 1-4 oed a’u rhieni/gwarchodwyr

Mae’n cynnig chwarae synhwyraidd, canu, crefftau, byrbrydau iach ac amser i rieni a gofalwyr gyd-gysylltu

Cysylltwch: Anna Derwas 07483555180

Bore Coffi Ysgol Penygloddfa

Mae’r bore coffi yn digwyddar y dydd Llun cyntaf y mis ac fe’utrefnir  Ysgol Penygloddfa

Partneriaeth arbennig rhwng ysgol ac eglwys, sy’n dod â disgyblion, rhieni, llywodraethwyr ac aelodau’r gymuned at ei gilydd i fwynhau coffi, gemau a sgwrs dda.

Mae’n ddigwyddiad hyfryd i’r gwahanol genedlaethau sy’n codi calonnau pob mis.

Undeb y Mamau

Mae Undeb y Mamau yn cyfarfod at y trydydd Dydd Mawrth o’r mis am 2.30pm yn Mill Close

Grŵp croesawgar wedi ei wreiddio mewn gweddi a chyfeillgarwch sy’n cefnogi bywyd teuluol yn lleol ac yn fyd-eang.

Mae’r cyfarfodydd yn cynnwys gwasanaeth byr, siaradwyr sy’n ysbrydoli, ac amser i sgwrsio dros goffi.

Maent yn cefnogi Banc Bwyd y Drenewydd, Canolfan Argyfwng i Deuluoedd Trefaldwyn, a phrosiectau Undeb y Mamau rhyngwladol.

Storïwyr

Bob tymor, mae ein Storïwyr (aelodau’r eglwys) yn ymweld ag ysgolion cynradd lleol ledled Ardal y Genhadaeth i rannu straeon am Iesu drwy ddrama, gwisg a hiwmor ysgafn.

Mae plant wrth eu boddau’n clywed straeon fel Y Ddafad Golledig, y Briodas yng Nghana a Gostegu’r Storm, ac mae athrawon yn dweud wrthym faint maen nhw’n edrych ymlaen at ein hymweliadau.

Clwbiau Gwyliau Plant

Yn ystod gwyliau’r ysgol, mae Eglwys yr Holl Saint yn cynnal sesiynau gyda thema arbennig i blant. Mae’r themau wedi eu seilio ar stroi feiblaidd

Mae pob sesiwn yn cyfuno adrodd straeon gyda gweithgareddau ymarferol, crefftau, coginio, chwarae a chreadigedd, gan orffen gyda rhannu cinio a gweddi.

Mae’n ffordd wych i blant ddysgu, archwilio a thyfu yn eu ffydd.

Pererindod ac Encilio

Pob blwyddyn, mae aelodau Eglwys yr Holl Saint yn ymuno â’r Parch Nia ar encil ysbrydol yn Aberdaron – amser i fyfyrio, gorffwys ac adfywio.

Cynheli yr encil nesaf ym mis Chwefror 2026 ac mae’n agored i bawb yn yr Ardal y Genhadaeth.

Digwyddiadau Cymunedol

Archwiliwch y ffyrdd amrywiol o ymgysylltu, bryday bwyd o a boreau coffi i grwpiau, clybiau, a gweithgareddau gofalu a chefnogi.

Dysgwch fwy

Amseroedd y Gwasanaeth

Ymunwch â ni i addoli a darganfod rhythm gweddi, myfyrio, a bywyd cymunedol yn Eglwys yr Holl Saint.

 

Dysgwch fwy

Ein Hanes

Camwch yn ôl drwy’r canrifoedd a datgelu stori ffydd, y dreftadaeth a’r gobaith a siapiodd Eglwys yr Holl Saint.

Dysgwch fwy

Cwestiynau Cyffredin

Dewch o hyd i atebion ymarferol i gwestiynau cyffredin am ymweliad, gwasanaethau a chymryd rhan ym mywyd ein heglwys.

Dysgwch fwy

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.