Mae bedydd yn un o’r cerrig milltir mwyaf hyfryd mewn bywyd, dathliad o groeso, gobaith a pherthyn.
Yn yr Holl Saint, mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu yn yr amser arbennig hwn, gan groesawu plant ac oedolion fel ei gilydd wrth iddyn nhw gychwyn eu taith mewn ffydd.
P’un a ydych yn trefnu bedydd ar gyfer babi newydd, i blentyn hŷn neu i chi’ch hun, bydd ein tîm clerigwyr yn eich tywys chi a’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.
Mae pob bedydd yn bersonol ac ystyrlon, a byddwn yn gweithio gyda chi i greu gwasanaeth sy’n adlewyrchu eich stori, eich ffydd, a’ch teulu.
Mae cael eich bedyddio’n golygu cael eich enwi, eich bendithio a’ch croesawu i deulu Duw, cymuned o ffydd sy’n ymestyn ar draws amser a lle.
01.
Rydym yn croesawu pobl o bob oed i gael eu bedyddio, babanod, plant, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion.
Mae bedydd yn nodi dechrau’r daith Gristnogol, lle mae’r rhieni, y rhieni bedydd, neu’r rhai sy’n cael eu bedyddio eu hunain yn gwneud addewidion.
Bydd ein clerigwyr yn eich helpu chi i ddeall ystyr yr addewidion hyn a beth mae bedydd yn ei gynrychioli.
02.
Os ydych yn trefnu bedydd i blentyn, cewch eich gwahodd i ddewis rhieni bedydd, pobl rydych yn ymddiried ynddynt a fydd yn cefnogi ac annog eich plentyn wrth iddyn nhw dyfu yn eu ffydd.
Mae’n rhaid i rieni bedydd fod wedi eu bedyddio.
Gall oedolion sy’n cael eu bedyddio ddewis noddwr yn lle rhiant bedydd, rhywun a fydd yn cerdded wrth eu hochr ar eu taith yn y ffydd.
03.
Fel arfer, mae bedydd yn digwydd yn yr Holl Saint ar ddyddiau Sul, naill ai’n rhan o wasanaeth bach ymroddedig neu o fewn prif addoliad.
Yn ystod y gwasanaeth bydd dŵr yn cael ei dywallt ar ben yr ymgeisydd fel arwydd o fywyd newydd a glanhad.
Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i wneud, neu gadarnhau, addewidion am ffydd ac ymrwymiad, addewidion y byddwn yn eich helpu i baratoi ar eu cyfer o flaen llaw.