Ychydig iawn o ddiwrnodau mewn bywyd sydd mor ystyrlon â’r un pan fyddwch yn sefyll gyda’r person yr ydych yn eu caru ac yn addo treulio’r dyfodol gyda’ch gilydd. Yn yr Holl Saint, byddai’n anrhydedd gennym rannu’r ennyd honno gyda chi.
Mae ein heglwys, sydd wrth galon cymuned Y Drenewydd, yn cynnig lleoliad prydferth a dwyfol ar gyfer eich seremoni briodas. P’un a ydych yn dychmygu dathliad mawr yn llawn cerddoriaeth a phawb yn y teulu, neu wasanaeth bach clud a chynnes, mae ein tîm yma i’ch arwain a’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd.
Mae pob priodas yn yr Holl Saint yn unigryw. Mae rhai cyplau’n dewis gwasanaeth traddodiadol gydag emynau a cherddoriaeth organ, tra bo’n well gan eraill achlysur mwy syml a phersonol.
01.
I briodi yn yr Holl Saint, un o’r pethau pwysicaf sy’n rhaid i chi ei gael yw rhywbeth o’r enw cysylltiad cymwys â’r eglwys. Gallai hynny olygu eich bod yn byw yn y plwyf yn awr, eich bod wedi byw yma yn y gorffennol, eich bod wedi cael eich bedyddio neu eich derbyn i’r eglwys yma, neu mae gennych rieni neu neiniau a theidiau sydd â chysylltiad â’r eglwys.
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys, gallwn eich cymryd chi drwy’r opsiynau a’ch helpu i archwilio ffyrdd o wneud yr Holl Saint yn rhan o’ch stori.
02.
Mae’r mwyafrif o gyplau’n priodi drwy gyhoeddi gostegion, sef gofyniad cyfreithiol traddodiadol lle mae rhywun yn cyhoeddi eich bwriad i briodi yn ystod gwasanaeth y Sul ar dair wythnos wahanol yn y tri mis cyn eich priodas.
Os nad ydych chi neu os nad yw eich partner yn wladolyn y DU, neu os oes amgylchiadau arbennig eraill, efallai y bydd angen i chi gael trwydded briodas yn lle hynny. Peidiwch â phoeni – bydd ein clerigwyr yn eich tywys chi drwy ba broses bynnag sy’n gywir i chi.
03.
O gerddoriaeth a darlleniadau i flodau, ffotograffau, a manion personol, bydd eich priodas yn cael ei siapio o gwmpas yr hyn sydd bwysicaf i chi.
Bydd sgyrsiau cynnar gyda’n clerigwyr yn ein helpu ni i ddeall eich gobeithion am y diwrnod, fel y gallwn greu seremoni sy’n bersonol ac wedi ei gwreiddio yn ffydd a thraddodiadau’r Eglwys yng Nghymru.
Cewch eich gwahodd i wneud, neu gadarnhau, addewidion o ffydd ac ymrwymiad, addewidion y byddwn yn eich helpu i baratoi ar eu cyfer o flaen llaw.